Skip to main content
 

NOD PROSIECT MAELGI: CYMRU

Diogelu Maelgwn yng Nghymru gyda physgotwyr a chymunedau arfordirol, gan ddefnyddio treftadaeth, addysg ac ymchwil.

 

NOD PROSIECT MAELGI: CYMRU

Diogelu Maelgwn yng Nghymru gyda physgotwyr a chymunedau arfordirol, gan ddefnyddio treftadaeth, addysg ac ymchwil.

 

NOD PROSIECT MAELGI: CYMRU

Diogelu Maelgwn yng Nghymru gyda physgotwyr a chymunedau arfordirol, gan ddefnyddio treftadaeth, addysg ac ymchwil.

Mae Prosiect Maelgi: Cymru yn parhau i redeg o dan ymbarél Prosiect SIARC, gan gyd-gyflawni elfennau’r prosiect sy’n benodol i’r Maelgi.  

Os hoffech ddysgu mwy am Brosiect SIARC, neu gael y diweddaraf am holl weithgareddau Prosiect Maelgi: Cymru, ewch i’n gwefan ar: 

www.ProsiectSIARC.com  

BETH YW MAELGI (LLUOSOG: MAELGWN)

Siarc mawr, gyda chorff fflat sy’n gallu cyrraedd 2.4m o hyd yw’r Maelgi (Squatina squatina). Mae’n perthyn i deulu’r Squatinidae, sy’n cael ei ystyried fel yr ail deulu o elasmobranchs (siarcod, sglefrod a morgathod) sydd dan y bygythiad mwyaf yn y byd. Bydd Maelgwn fel arfer yn cael eu canfod dan y dŵr mewn cynefinoedd tywodlyd mewn dyfroedd arfordirol.

Yn Saesneg, gelwir y Maelgi hefyd yn ‘monkfish’ neu’n ‘angel fish’, ac weithiau bydd y siarcod hyn yn cael eu camgymryd am forgathod neu eu cam-gofnodi fel ‘Cythreuliaid y Môr’ (‘Anglerfish’).

Edrychwch ar www.angelsharknetwork.com er mwyn deall y prif fygythiadau ac i gael gwybod am brosiectau cadwraeth ar gyfer teulu’r maelgi, a hynny ar draws ei gynefin.

PWYSIGRWYDD CYMRU I’R MAELGI

Mae o leiaf 23 rhywogaeth o faelgi, sy’n ffurfio un o’r teuluoedd o forgwn a morgathod dan y bygythiad mwyaf yn y byd (Squatinidae). Y maelgi (Squatina squatina) yw’r unig rywogaeth o faelgi sy’n bresennol yn nyfroedd yr Iwerydd yng ngogledd-orllewin Ewrop, ac mae wedi’i restru fel rhywogaeth mewn perygl difrifol ar Restr Goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur o Rywogaethau dan Fygythiad.

Er y bu gostyngiad yn nosbarthiad y maelgi mewn rhannau eraill o ogledd-orllewin Ewrop, gan gynnwys yr hyn a gofnodwyd yn ddiweddar yn Iwerddon ac yn rhannau deheuol Môr y Gogledd, mae’r maelgi yn dal i fod yn bresennol yng Nghymru ac fe’i hadroddwyd yn rheolaidd ym Mharth Cymru trwy gydol y ddegawd ddiwethaf.

SUT MAE’R MAELGI WEDI’I DDIOGELU YNG NGHYMRU

  • Mae’n anghyfreithlon tarfu, targedu, anafu neu ladd Maelgi yn fwriadol o fewn 12 milltir forol o arfordir Cymru a Lloegr (Atodlen 5 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981)
  • Mewn perthynas â physgotwyr masnachol, mae’n anghyfreithlon targedu, cadw, trosglwyddo neu lanio Maelgwn yn achos holl gychod a llongau’r UE a thrydedd wlad yn nyfroedd yr UE. Pob gwrthodiad> Rhaid i 50kg gael ei logio. (Rheoliad y Cyngor (UE) Rhif 2017/127)

CYNLLUN GWEITHREDU MAELGWN CYMRU

Mae rhwydwaith cryf o gyrff anllywodraethol, Asiantaethau Llywodraethol a Phrifysgolion wedi cydweithio er mwyn creu Cynllun Gweithredu Maelgwn Cymru, sy’n cynnig cyfle unigryw i ddeall a diogelu’r rhywogaeth hon yn nyfroedd Cymru.

Mae’r Cynllun Gweithredu yn darparu rhestr o Gamau Gweithredu i’w cyflawni dros y pum mlynedd nesaf, a thrwy gydweithio i gyflawni’r Cynllun Gweithredu hwn, gallwn symud tuag at ein Gweledigaeth: poblogaeth o Faelgwn sy’n ffynnu yng Nghymru.

PM:C PAPUR A CRYNODEB

Mae PM:C wedi bod yn gweithio i fynd i’r afael â bylchau allweddol mewn gwybodaeth o ran dosbarthiad, ecoleg a defnydd Maelgwn o gynefinoedd yng Nghymru. Cyhoeddwyd ein papur gwyddonol cyntaf ym mis Mehefin 2022, ac mae’r canfyddiadau allweddol rhwng Mehefin 2017 a Mehefin 2022 wedi’u crynhoi mewn adroddiad.

SUT I GYMRYD RHAN

Dilynwch y canllawiau

Mae’n anghyfreithlon targedu’r pysgodyn hwn, ond os digwydd i chi ddal un ar ddamwain pan fyddwch yn pysgota dylech ddilyn ein canllaw arfer gorau er mwyn ei ryddhau mewn cyflwr da.

Dylai deifwyr a snorclwyr sy’n ddigon ffodus o ddod ar draws Maelgi mewn dŵr gadw at God Ymddygiad Maelgwn bob amser.

Adrodd am Arsylliadau

Bydd cael gwybodaeth oddi wrthych chi yn ein helpu i ddeall ecoleg y Maelgi yn well yn y dyfroedd sy’n amgylchynu Cymru. Rydym yn annog unrhyw un sydd â chofnodion hanesyddol, cyfredol ac yn y dyfodol am y Maelgi yng Nghymru i adrodd am eu data.

Gellir llwytho unrhyw arsylliadau yn uniongyrchol i’r map ‘gweld Maelgi’

eLyfr

Rydym wedi datblygu e-lyfr ar gyfer disgyblion CA2 sy’n astudio treftadaeth Maelgwn yng Nghymru a’r modd yr ydym yn cydweithio er mwyn deall rhywogaethau sydd Dan Fygythiad Mawr.

Y Cyfryngau cymdeithasol

Cadwch olwg ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod am ddigwyddiadau a chyfleoedd sydd i ddod er mwyn gallu dysgu mwy am y Maelgi yn nyfroedd Cymru.

PROSIECT ANGEL SHARK: AELODAU GRŴP LLYWIO CYMRU

  • Aberystwyth School of Veterinary Science
  • All the Elements
  • Angling Cymru Sea Anglers
  • Bangor University
  • Blue Abacus
  • Cetacean Standings Investigation Programme
  • Inland Fisheries Ireland
  • Irish Elasmobranch Group
  • Leibniz Institute for the Analysis of Biodiversity Change
  • Minorities in Shark Sciences
  • National Lottery Heritage Fund
  • National Waterfront Museum
  • Natural Resources Wales
  • Nature Networks Fund
  • North Wales Wildlife Trust
  • On the Edge
  • People’s Collection Wales
  • Shark Trust
  • Swansea University
  • The National Botanic Garden of Wales
  • University College Dublin School of Veterinary Medicine
  • University of Las Palmas de Gran Canaria
  • Welsh Fishermen’s Association
  • Welsh Government
  • Zoological Society London

Cefnogir y prosiect hwn gan:

Cysylltwch â ni



    Photos used on this webpage c. Michael Sealey and Visit Wales